Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Medi 2020
Amser:
09.00 -
12.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6443
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Andrew RT Davies AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Dr Frank Atherton, Llywodraeth Cymru Jo-Anne Daniels, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2 Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru ynghylch: (i) cynigion ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre; (ii) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol; ac (iii) ymchwiliad y Pwyllgor i Covid-19
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
2.2 Gyda chytundeb y Cadeirydd, ymunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â'r sesiwn dystiolaeth ar ôl y drafodaeth ar y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig.
2.3 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu â’r Pwyllgor gopi o'r llythyr a gafwyd gan yr Arglwydd Bethell, Arweinydd y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol.
2.4. Cafodd y Pwyllgor anawsterau technegol a bu’n rhaid dod â’r trafodion i ben am gyfnod byr.
3 Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru ynghylch: (i) cynigion ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre; (ii) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol; ac (iii) ymchwiliad y Pwyllgor i Covid-19 (parhad)
3.1 Parhaodd y Pwyllgor â’i sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr gan y Cadeirydd at Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ynghylch cyfleusterau gorffwys yn Ysbyty Athrofaol y Grange
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â’r Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig
4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytuno i ymateb.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
6 Trafod y dystiolaeth
6.1 O ran Canolfan Ganser Felindre, cytunodd y Pwyllgor i aros am ganfyddiadau Ymddiriedolaeth Nuffield.
6.2. Mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddo amlinellu’r pryderon sydd ganddo o hyd.
6.3 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyda chwestiynau nad modd i’r Aelodau eu gofyn yn ystod y cyfarfod oherwydd cyfyngiadau amser.